Disgrifiad
Nofel wedi’i gosod yn ne Cymru yn y 1950au. Mae’n dilyn hynt a helynt ymgeisydd mewn is-etholiad seneddol. Ceir yma gymeriadau lliwgar, ac wrth ddisgrifio’u hamryfal weithgareddau a throeon trwstan, gallwn gydymdeimlo â hwy, yn ogystal â chwerthin ar eu pennau.




