Disgrifiad
Mae Sir Gâr, y fwyaf o’r hen siroedd Cymreig, sy’n nythu rhwng sir Benfro a Phenrhyn Gŵyr yng nghalon de-orllewin Cymru yn wlad o gyferbyniadau. Mae’r arfordir syfrdanol yn cynnig clogwyni uchel, traethau diddiwedd ac aberoedd cysgodol, tra bo’r mewndir yn llawn cymoedd cudd, bryniau caerog a choetiroedd yn byrlymu â bywyd.



