Disgrifiad
Siôn ydy’r cawr mwya blêr yn y dre. Un dydd mae e’n gweld siop newydd yn gwerthu dillad cawr. ‘Mae’n amser i mi gael dillad newydd,’ meddai. Efo’i drowsus crand, crys crand, tei streipiog a sgidiau gloyw, mae Siôn yn teimlo fel cawr newydd sbon.



