Disgrifiad
Mae’r llyfr hardd hwn yn nodi achlysur arddangosfa arbennig iawn. Yn 2017 daeth 32 o weithiau celf, gan gynnwys rhai gan artistiaid mwyaf adnabyddus celf fodern Brydeinig, ar fenthyg i Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd. Gweithred ryfeddol o haelioni oedd y benthyciad, ar ran perchnogion y casgliad, sef Ian a Mercedes Stoutzker.



