Disgrifiad
Mae Elfed ac Aderyn yn chwarae cuddio. Coda’r llabedi i edrych y tu ôl i’r graig, ynghanol gyrr o eliffantod a thu ôl i glust Elfed! Mae’r llabedi cadarn wedi’u dylunio’n arbennig ar gyfer dwylo bach ac mae’r llyfr yn gyflwyniad rhyngweithiol a chlyfar i hwyl a drygioni Elfed a’i ffrindiau. Addasiad Cymraeg Roger Boore.



