Disgrifiad
Mae’r llyfr hwn yn mynd â ni yn ôl ar daith i’r gorffennol, o gyfnod y Chwyldro Amaethyddol i’r Rhyfeloedd Byd, ac yn edrych ar themâu fel plant ar ffo, technoleg, amser hamdden ac addysg. Ar bob taenlen ceir darn ffeithiol a darn ffuglennol, ynghyd â chwestiynau darllen a deall a chwestiynau i annog y dysgwyr i ymateb a dadansoddi’r testun.















