Disgrifiad
Os nad wyt ti erioed wedi darllen am yr amddifaid Baudelaire o’r blaen, mae rhywbeth pwysig iawn y dylet ti ei wybod cyn darllen yr un frawddeg arall: rhai caredig a chlyfar yw Violet, Klaus a Sunny, ond mae eu bywydau, mae’n flin gen i ddweud wrthyt ti, yn llawn anlwc a diflastod. Anhapusrwydd a thorcalon sydd ym mhob un o’r storïau amdanynt….




