Disgrifiad
Pobl dau bentref a dwy ardal roddodd fod i gwmni’r Moto Coch ganrif union yn ôl. Os bu pentref cydweithredol erioed yn holl hanes Cymru, pentref Trefor oedd hwnnw, a chofleidiwyd ei athroniaeth gan y pentrefi chwarelyddol cyfagos ym Mro’r Eifl. Ryw hanner canrif cyn ffurfio’r cwmni bysus sefydlwyd Cymdeithas Gydweithredol Gweithwyr yr Eifl…



