Disgrifiad
Pe baech yn rhoi cip drwy ffenestri siop drin gwallt Igam Ogam ar y Stryd Fawr, Cricieth, peidiwch â synnu pe baech yn gweld llond y lle o staff a chwsmeriaid yn sgwrsio a chwerthin ar draws ei gilydd. Mae yna hen siarad a hen dynnu coes yno. A pha ryfedd – mae Jano ac Anwen y perchenogion yn nabod pawb yn Llŷn ac Eifionydd. Maen nhw…




