Disgrifiad
Yn y dyddiau caled a pheryglus pan oedd y pyllau glo yn eu bri, roedd hiwmor yn arf a ddefnyddiai’r glowyr yn eu brwydr i oroesi, a daeth eu ffraethineb yn ddihareb. Ond cewch yn y gyfrol hon hefyd gip ar hiwmor cyfoes y Cymoedd – y cymeriadau difyr a’r llysenwau craff a doniol – ac mae’r awdur yn tynnu ar ei brofiad helaeth o fywyd ysgol a…



