Disgrifiad
Dyma stori Nadoligaidd hyfryd sy’n sôn am gyfrinach. Wyddoch chi fod yr anifeiliaid i gyd yn gallu siarad ar Noswyl Nadolig? Maen nhw’n helpu ffoadur amddifad i ddod o hyd i gartref ym Methlehem, Cymru. Stori gyfoes a pherthnasol, ag iddi wers bwysig, sef sut i fod yn garedig i bawb, o bob cefndir a hil.



