Disgrifiad
Dyma’r casgliad sylweddol cyntaf o gerddi Twm o’r Nant oddi ar olygiad Isaac Foulkes, 1874. Ceir yma flas o firi’r anterliwt mewn areithiau, ymddiddanion a chaneuon, cerddi o ddychan didrugaredd ar ‘y byd echryslon’, cerddi grymus o ddysgeidiaeth a phrofiad crefyddol, a cherddi am helbulon aml bywyd y bardd.




