Disgrifiad
Llyfr stori a llun doniol, dwyieithog am y môr-leidr ifanc Mel Morgwn, sy’n gwrthod brwsio’i ddannedd yn ddyddiol a bwyta’n iach. Er gwaetha’ ymdrechion gorau ei deulu a’i athrawes, wnaiff e’ ddim brwsio’i ddannedd. Ymunwch â Mel ar antur hwyliog ar y môr er mwyn dysgu beth yw hylendid da ac arferion bwyta iach!



