Disgrifiad
Mae Rhys wrth ei fodd â dau beth… prynhawniau hwyliog yn y ffair a bwyta llond bol o felysion! Pan mae Mam yn addo’r ddau iddo un diwrnod, mae e’n hapus ei fyd! Ond, mae rhywbeth o’i le… Wrth i Rhys lyncu ei losin i gyd, a gollwng ei sbwriel ar hyd y stryd, mae rhywbeth neu rywun yn dod ar ei ôl.



