Disgrifiad
Argraffiad newydd o England is my Village gan yr awdur o Gymro John Llewelyn Rhys (1911-1940), sef casgliad o straeon am awyrennu Prydeinig yn y 1930au. Ceir straeon am yr awyrennau a’r peilotiaid, eu gallu a’u dewrder, eu bywydau o ddiota, yr ymdrechion i dorri recordiau hedfan, marwolaethau trwy ddamwain a mentro unwaith yn ormod.



