Disgrifiad
Yn 1939, cludwyd nifer o ffoaduriaid o blant Iddewig, Almaenig gan y Kindertransport i Abergele. Eu cartref dros dro oedd Castell Gwrych, lle sefydlwyd Hachshara, sef canolfan hyfforddi a anelai at baratoi’r plant i fywyd mewn kibbutz yn Israel, lle roeddent yn gobeithio ailymuno â’u teuluoedd.



