Disgrifiad
Hanes y diwydiant crochenwaith yn ardal Penybont ar Ogwr. Cafodd crochenwaith ei gynhyrchu yn yr ardal hon ers y 1700au, gyda chyfanswm o bymtheg crochendy. Crochenwaith Ewenni yw’r hynaf yng Nghymru, ac mae’n parhau ym mherchnogaeth disgynyddion uniongyrchol y sefydlwyr.



