Disgrifiad
Wrth i dymor yr hydref ddechrau, mae Fletcher yn gofidio bod ei goeden hardd yn dechrau colli ei dail. Er iddo geisio arbed y dail, does dim yn tycio. Pan syrthia’r ddeilen olaf, mae Fletcher yn teimlo’n ddiymadferth… hyd nes iddo ddychwelyd y bore canlynol i weld golygfa wych.



