Disgrifiad
Mae Llygoden a Twrch yn ceisio penderfynu beth a wnânt yfory. Y cynllun yw mynd am bicnic brechdanau caws a chiwcymer os bydd yn dywydd braf, ac aros o flaen y tân yn mwynhau cnau castan wedi’u rhostio a myffins wedi’u tostio os bydd yn dywydd gaeafol. Ond beth a wnânt os na fydd yn dywydd braf nac yn dywydd gaeafol?



