Disgrifiad
Canllaw i bysgota â phluen ar afonydd y ffin: Dyfrdwy, Hafren, Gwy a’r Wysg, a’u hisafonydd, yn cynnwys hanes ac ecoleg yr afonydd, cymeriadau a physgotwyr enwog a llenyddiaeth am bysgota. Manylir hefyd ar gefndir ac addurniadau 225 math o blu i ddal brithyll a phenllwyd y gellir olrhain eu tarddiad i’r ardal.



