Disgrifiad
Mae Frank Green wedi bod yn creu delweddau o ddinas Lerpwl, ei ddinas enedigol, ar gynfas ers hanner can mlynedd, bron. Mae ei luniau diweddar yn portreadu strydoedd yr adeiladwyr o Gymru fu’n rhan ganolog o ddatblygiad Lerpwl ers canol y bedwaredd ganrif ar bymtheg.



