Disgrifiad
Doedd Gavin ddim yn hoffi bod yn frown, yn ddi-liw ac yn ddiflas, ac felly mae’n ychwanegu secwinau, gleiniau, petalau, sticeri a llawer mwy i’w gragen gan dyfu’n falwoden hardda’r byd. Ond dyw’r malwod eraill ddim yn hoffi arddull Gavin. Yn fuan, byddant yn dysgu bod gan Gavin rywbeth pwysig iawn a fydd yn profi’n allweddol pan ânt ar goll…



