Disgrifiad
Portread agos atoch o un o farchogion disgleiriaf hanes – William Marshal – sy’n darlunio rhwysg a barbareiddiwch y Canol Oesoedd mewn modd lliwgar. Ymgyfeillachodd â chymeriadau pwysig megis y brenhinoedd Richard I (Lionheart) a John, a chynorthwyodd i lunio amodau’r Magna Carta. Dyma stori sy’n cynnig darlun byw o realaeth anwaraidd rhyfela…



