Disgrifiad
Mae hanes Gwlad y Basg – Euskal Herria – a’i phobl yn gyffrous yn ei holl amrywiaeth. Iaith y Basgiaid yw’r hynaf yn Ewrop sy’n parhau’n iaith gymunedol a chenedlaethol fyw heddiw ac mae’n bosib mai’r Basgiaid oedd yr Ewropeaid cynharaf i gyrraedd cyfandir America.



