Disgrifiad
Mae Lola Nox, merch i wneuthuwrwr ffilmiau arswyd enwog, yn credu na all dim ei brawychu. Ond pan ymosodir yn giaidd ar ei thad yn eu cartref yn Efrog Newydd, danfonir Lola i fyw gyda’i mamgu yn Harrow Lake, y dref iasoer lle gosodwyd ffilm fwyaf brawychus ei thad. Mae’r trigolion wedi ffoli ar y ffilm a roes eu tref ar y map.



