Disgrifiad
Mae’r bridiwr Duon Cymreig adnabyddus o Dyddewi, y diweddar John Beynon ‘Penlan’, yn hel atgofion gyda hiwmor a chynhesrwydd am ei brofiad hir o ffermio a’i fuches arobryn, gyda chyfoeth o fanylion am arferion amaethyddol hen. Rhagair gan Adam Henson o Countryfile a 32 tudalen o ffotograffau.



