Disgrifiad
Caerdydd 1997. A’i bryd ar antur fwya’i bywyd a gyrfa yn uchelfannau’r cyfryngau, mae Ceri’n gadael fferm y teulu ym Mhenllyn am gyffro’r brifddinas. Nosweithiau soffistigedig, corff siapus, dillad ffasiynol, dyn perffaith – dyna’r ddelfryd. Sut fydd realiti’n cymharu?



