Disgrifiad
Yng nghwmni’r swolegydd, y bardd a’r awdures boblogaidd Nicola Davies, cewch ddarganfod rhyfeddodau byd natur, a dysgu sut i ddarlunio creaduriaid môr o bob lliw a llun, yn cynnwys slefrod môr lliwgar a llyswennod tywod ariannaidd. Ceir cyfarwyddiadau llawn ar sut i ddarlunio’r creaduriaid gan Abbie Cameron ynghyd â ffeithiau difyr amdanynt…



