Disgrifiad
Cyfrol o straeon a adroddwyd gan gyfarwyddiaid flynyddoedd maith yn ôl, gan bobl a ymfudodd i Gymru o wledydd ar draws y byd. Yma, cewch gyfarfod môr-forynion swnllyd Bae Ceredigion, y tiroedd cudd o dan y dŵr, coeden hynafol sydd â drws i’r arall fyd, hen wraig sy’n creu swynion serch a drygioni, y llyffant doeth sy’n byw yn y ffos…



