Disgrifiad
Beth sy’n eich gwneud yn Gymro? Ai’r gallu i siarad yr iaith Gymraeg? Neu a yw’n rhywbeth llawer mwy anodd i’w ddiffinio – ffordd arbennig o feddwl, neu deimlad yn y galon? Yn y gyfrol hon mae Peter Daniels yn edrych ar Gymreictod trwy adrodd stori ei fywyd ei hun yn Llanelli ac fel un o Gymry Llundain.




