Disgrifiad
Wedi iddo ddychwelyd o angladd ei dad, mae’r traethydd yn dechrau darllen dyddiadur ei dad o’i gyfnod yn filwr yn ystod yr Ail Ryfel Byd. Mae’r traethydd yn ailymweld â gorffennol ei dad ac â’i orffennol ei hun, gan edrych am y craciau, yr arwyddion o wendid a’r amlygiadau o emosiwn.



