Disgrifiad
Llyfr lluniau a geiriau sy’n olrhain hanes protest yng Nghymru hyd heddiw. Am y tro cyntaf, mae Arwel Vittle wedi casglu ynghyd y goreuon o luniau protest dros y degawdau. Mae’r casgliad gweledol trawiadol yn weithiau gan rai o ffotograffwyr gorau Cymru gan gynnwys Geoff Charles, Ray Daniel, Jeff Morgan a Marian Delyth.




