Disgrifiad
Mae gan Jac un freuddwyd—gweld ei hoff fand yn perfformio’n fyw. Ond pan mae ei rieni’n gwrthod prynu tocyn iddo, mae’n ymddangos yn amhosib… nes bod creadur blewog dirgel o’r enw Pwca yn cyrraedd. Stori hudolus, llawn hwyl i ddarllenwyr ifanc, wedi’i chynllunio’n arbennig i fod yn hygyrch ac yn bleserus i blant sydd â dyslecsia.






