Disgrifiad
John Meirion Morris yw’r cerflunydd amlycaf yng Nghymru heddiw. Yn y gyfrol hygyrch, ddeniadol hon ceir trafodaeth rhyngddo a’r awdur Gwyn Thomas gyda chrynodeb o’i yrfa, yr ymateb i’w weithiau unigol (e.e. cofeb Tryweryn, cerflun o Ray Gravell) a chyfeiriadau personol.







