Disgrifiad
Mae stori Kit yn un am gymhlethdod helaeth – a breuder – bywyd a pherthnasoedd. Mae’n stori am un bywyd yn cael ei aflonyddu wrth i fywyd arall symud at ei derfyn. Mewn cerdd-ryddiaith foel a throfaus, sy’n atseinio o waith Max Porter, Elizabeth Smart, Kae Tempest a Rebecca Watson, dyma waith pwerus, haenog, am empathi, cyfeillgarwch a chariad…



