Disgrifiad
Yn ystod ymweliad â’i fam, caiff Lethbridge-Stewart ei gyffroi pan elwir arno i gynorthwyo Harold Chorley. Mae trên o Fryste wedi mynd ar goll, ac mae Chorley’n grediniol fod gan hyn gysylltiad â hanes Triongl Keynsham, lle diflannodd dros hanner cant o bobl yn gynnar yn y 1800au.




