Disgrifiad
Yn ddyn ifanc, doedd gan Alistair Lethbridge-Stewart ddim awydd dilyn gyrfa filitariadd fel eraill o’i deulu. Roedd e’ am fod yn athro mathemateg, ond pan gychwynnodd Rhyfel Korea, cafodd ei alw i wneud Gwasanaeth Milwrol. Cyfarfu â Spencer Pemberton, a newidiodd ei fywyd am byth!



