Disgrifiad
Cyfrol nodedig sy’n dwyn ynghyd gerddi allweddol yng ngyrfa Hilary Llewellyn-Williams, un o feirdd blaenllaw ei chenhedlaeth yng Nghymru. Yn ogystal â’r dilyniannau clasurol ‘The Tree Calendar’ a ‘Book of Shadows’, cynhwysir hefyd waith newydd, megis cylch o gerddi a gysegrwyd i’r oriau Benedictaidd.












