Disgrifiad
Am drigain milltir o Ynys-las ger aber afon Dyfi yn y gogledd, hyd at draeth Gwbert ger aber afon Teifi yn y de, caiff y cerddwr ei gyfarch gan brydferthwch ar ryw ffurf neu’i gilydd. Daliodd y detholiad hwn o ffotograffau beth o’r ceinder hwnnw gan ei gynnig fel hyfrydwch pur i’r rhai a brofodd y llwybr eisoes, ac fel addewid i’r rhai sydd eto…



