Disgrifiad
Mae Bob a Talina yn gymdogion. Dyn byr â chorff yr un siâp â phêl-droed yw Bob. Mae ei gartref, Hafod Isaf, yn llydan ac isel. Mae Talina yn dal ac yn denau, ac mae ei chartref hi, Hafod Uchaf, yn gul a thal. Cewch glywed am hynt a helynt Bob a Talina, eu tai a’u gerddi yn y llyfr hwn! Stori i blant 5-7 oed.




