Disgrifiad
Mae Gwenno a’i theulu wedi symud tŷ ac wrth i’w rhieni ddadbacio, mae hi’n dod o hyd i hen dŷ bach twt yng ngwaelod yr ardd. Mae Tili, y dylwythen deg, yn ymddangos o focs bach hud Gwenno, ac mae hi a’i ffrindiau yn helpu Gwenno i dwtio’r ardd a thrawsnewid y tŷ bach twt. Stori i blant 5-7 oed.







