Disgrifiad
Beth am blymio i berfeddion Eryri gyda Mabon yr Eog a Mabli’r dyfrgi, wrth iddyn nhw ddatgelu rhyfeddodau cudd yr afon sy’n gartref iddyn nhw? Dewch i gyfarfod Tesni’r Torgoch pysgodyn arbennig gyda bol coch, a dysgu pam mae llynnoedd glân ac oer mor bwysig, a sut gall pobl helpu i’w diogelu.




