Disgrifiad
Stori wedi’i darlunio’n lliwgar gyda thestun cyfochrog doniol Cymraeg a Saesneg am Matthew a’i ffrind Diglot y Ddraig wrth iddyn nhw benderfynu pa esgidiau i’w gwisgo er mwyn chwarae yn y glaw. Un o deitlau cyfres o lyfrau dwyieithog a ysgrifennwyd yn arbennig ar gyfer plant sy’n dechrau darllen.



