Disgrifiad
Dilyniant i Meirw Byw. Mwy o hanes y teulu a gafodd ei chwalu gan eu hymweliad i Annwn, wrth iddynt ddygymod â chanlyniadau’r gwrthdaro mawr rhwng Rhodri ac Arawn. Gydag un o’r teulu ar goll a’r lleill ar wasgar, mae bywyd yn anodd iddynt i gyd, wrth i bawb geisio dygymod a’u sefyllfa newydd, a’r boen o golli Idris yn eu llethu.



