Disgrifiad
Roedd Elin wedi bod yn edrych ymlaen yn eiddgar at ddechrau gwyliau’r haf: dyddiau braf, barbeciws yn yr ardd ac amser i ymlacio. Ond ar ddiwrnod ola’r tymor, caiff ei breuddwydion eu dryllio, gan ei gorfodi i wneud penderfyniad byrbwyll iawn. A fydd bryniau gwyrdd Iwerddon – a chroeso cynnes Rhys, un o’i ffrindiau bore oes – yn noddfa iddi?



