Disgrifiad
Llyfr newydd ar addysgu ieithoedd gyda ffocws arbennig ar ddwyieithrwydd ac addysgu ail iaith. Mae’n cynnwys cyngor ymarferol i athrawon iaith a gweithgareddau astudio myfyriol i gynorthwyo datblygiad myfyrio beirniadol ar arferion addysgu. Mae’n hyrwyddo dull trochi, cyfannol a rhyngweithiol i addysgu ieithoedd.



