Disgrifiad
Ymddangosodd Alys yr haf diwethaf, ac yna diflannodd heb arlliw ohoni. Syrthiodd Ifan mewn cariad â hi, roedd Hannah yn ei chasáu ac mae Marko yn edifar am yr hyn a wnaethant. Yr haf hwn, mae Cait wedi dod i’r dref. Mae merch ar goll, a rhaid i Cait ddatguddio’r gwir. Beth ddigwyddodd yr haf diwethaf? A phwy yw Alys?



