Disgrifiad
Dros y blynyddoedd, cafodd dyddiaduron Hafina Clwyd yn Y Wawr eu darllen yn helaeth. Dyma gofnod arall o saith mlynedd brysur ac amrywiol. Nid oedd y cyfnod yn fêl i gyd gan iddi orfod dygymod â cholli ei phriod ynghyd â damwain ddifrifol ei brawd.



