Disgrifiad
Roedd Paul Robeson yn fyfyriwr disglair ac yn athletwr penigamp, ond troes ei gefn ar yrfa ym myd y gyfraith er mwyn dilyn ei freuddwyd yn berfformiwr ac ymgyrchydd. Yn bendifaddau, ef oedd Americanwr Affricanaidd enwocaf ei gyfnod, cyn iddo golli’r cyfan er mwyn ei egwyddorion.



