Disgrifiad
Llyfr fflip sy’n fwrlwm o hwyl a ffeithiau ac yn cynnwys cardiau rysáit a CD-ROM. ‘Fe gewch chi wobr am y llysiau gorau!’ Mae cystadleuaeth Mam yn her i’r cyw arddwyr Sandeep a Sunita. Efallai y bydd angen help Mrs Edwards, Lôn Abernant, arnyn nhw! Cydymaith i Sioe Abernant sy’n rhan o’r gyfres O’r Pridd i’r Plat.



